Dyma wefan Gristnogol Gymraeg sy'n edrych ar ddelweddau o fywyd y Cristion Newydd. Rydym am i bawb gael y wybodaeth am Iesu trwy gyfrwng y Gymraeg. Hefyd rydym yn trafod cwestiynau sydd yn poeni llawer o Gristnogion yn y byd ac yn edrych ar y newyddion a'r gerddoriaeth Gristnogol ddiweddaraf.
1 Corinthiaid 3 : 10-11
Rhaid bod yn ofalus wrth adeiladu, am mai ond un sylfaen sy'n gwneud y tro i adeiladu arni, sef Iesu y Meseia.
beibl.net
Mae Eglwys Annibynnol Caerdydd wedi gwerthu eu hadeilad! Maent yn cymryd cam i mewn i'r dyfodol gyda ffydd y bydd Duw yn eu harwain. Maent yn cynnal odfaon yng Nghanolfan Eglwys Newydd Caerdydd am y tro. Gweddiwch drostynt!
Nid yw'r wefan newydd sbon yma wedi cael ei lawnsio eto! Er mwyn ei hagor yn swyddogol rydym yn meddwl cael gig i'w chychwyn! Felly os oes ganddoch syniad pryd i gynnal gig, pwy i berfformio a beth i'w gynnwys, anfonwch eich syniadau i cristionewydd@gmail.com. Rydym yn gobeithio ei gynnal cyn nadolig. Er mwyn Iesu!
Fel gwefan Gristnogol rydym am ei olygu yn wythnosol er mwyn sicrhau bod y wybodaeth yn ddigonol i helpu pobl i ddilyn Iesu. Ar hyn o bryd nid oes gennym ddigon o olygyddion i ehangu ein gwefan. Felly os ydych am helpu gwneud Iesu Grist yn ganolbwynt ar fywydau pobl yng Nghymru unwaith eto anfonwch ebost i cristionewydd@gmail.com
Y mae'r Gorlan yn parhau i lenwi'r gwactod ym mywydau pobl yn yr eisteddfod genedlaethol.
Mae miloedd o bobl China yn troi at Gristnogaeth yn ddyddiol. Yn ol cyfrif mae 80 i 130 miliwn ohonynt erbyn heddiw.
Yn ystod yr eisteddfod cyhoeddodd Cymdeithas y Beibl fersiwn beibl.net o efengyl Marc wedi ei argraffu.
Trwy gydol ei fywyd ymladdodd Desmond Tutu yn erbyn yr arwahanu a'r anghyfiawnder yn Ne Affrica.
You are viewing the text version of this site.
To view the full version please install the Adobe Flash Player and ensure your web browser has JavaScript enabled.
Need help? check the requirements page.